Gwasanaeth Dylunio Am Ddim!

GALLWN DDYLUNIO’R CANLYNOL AM DDIM I CHI:

• Posteri – mawr neu bach, lliw llawn neu ddu a gwyn, i chi eu hargraffu adref neu anfon at wasg
.• Tystysgrifau enillwyr – mae pob plentyn yn hoffi derbyn prawf o glod!
• Logo newydd neu addasu eich logo presennol
.• Tocynnau raffl/mynediad – tocynnau o unrhyw fath ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau
• Unrhyw ddeunydd hyrwyddo – e.e. baneri
• Logo – ei greu’n ddigidol er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer nifer o wahanol ddibenion

Hefyd……Cysodi/dylunio eich Rhaglen/Rhestr Testunau – AM DDIM!

Mae nifer o Eisteddfodau yn ddiweddar wedi newid steil ac edrychiad eu rhaglenni. Mae cystadleuwyr wedi datgan ei bod yn haws mynd drwy raglen felly. Wrth reswm does dim rheidrwydd i neb newid yr hyn y maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd ond os hoffech chi gael dyluniad unigryw a chyfoes i’ch Rhestr Testunau (a hynny’n rhad ac am ddim), cysylltwch â Lois. Dyma gyfle i arbed ychydig o amser (a chostau) a’i gwneud yn hawdd wedyn i ni hysbysebu eich rhaglen ar y wefan hon.

Sut i fynd ati: Cysylltwch â Lois. Anfonwch eich rhaglen ati ar bapur, fel dogfen Word neu fel arall. Bydd Lois yn ei ddylunio (yn cynnwys yr hysbysebion) ac yn anfon proflen yn ôl atoch. Unwaith y byddwch yn cadarnhau bod popeth yn gywir fe fydd Lois yn anfon copi ‘parod i’r wasg’ atoch.

Beth am yr argraffu? Nid oes gwasanaeth argraffu ar gael drwy’r wefan felly gallwch barhau i gefnogi eich gwasg leol.

Dyma lond llaw o’r gwaith dylunio:

 

Dylunio2020-1

 

 

 

Dylunio2018