Heddiw ysgrifennodd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru lythyr agored at HSBC yn gofyn iddyn nhw ail ystyried eu cynlluniau o gyflwyno costau ar gyfrifon elusennol a chymunedol a ddaw i rym o fis Tachwedd ymlaen. Danfonwyd copi o’r llythyr hefyd at bob aelod o Senedd Cymru yn ogystal ag Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli Cymru yn San Steffan.

Dywedodd Megan Jones Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru ar eitemau newyddion BBC Cymru: “Bydd hyn yn effeithio ar sawl mudiad fel eisteddfodau, capeli a phapurau bro. Mae wedi bod yn ddeunaw mis anodd iawn i’r mudiadau a bydd hi’n golled os bydd rhaid i ni dalu rhagor o dreuliau am wasanaeth maen nhw (HSBC) yn dweud sy’n gymunedol.” 

Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru’n ymuno â nifer o fudiadau a chymdeithasau eraill yng Nghymru sy’n pryderu gall y costau yma fod yn hoelen olaf yn yr arch i nifer o bwyllgorau lleol sy’n ceisio’u gorau glas i ail-gynnau’r fflam ddiwylliannol yn dilyn heriau COVID.

DARLLEN Y LLYTHYR

Deiseb HSBC