Beth yw Eisteddfod?

siaradwr1 Beth yw Eisteddfod?

Nid pawb, am wahanol resymau, sydd yn gwybod beth yn union yw eisteddfod a beth sydd yn mynd ymlaen mewn eisteddfod. I daflu mwy oleuni ar y mater mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi llyfryn ‘Beth yw Steddfod’ sydd ar gael ar ffurf PDF drwy glicio yma. Fel arall, isod mae cynnwys y llyfryn i chi ei ddarllen yn uniongyrchol:

Yn gryno
Yn gryno, cystadleuaeth flynyddol rhwng adroddwyr, llefarwyr, beirdd, llenorion, dawnswyr, cantorion a cherddorion yw’r Eisteddfod fodern. Cynhelir eisteddfodau mawr a bach ledled Cymru ac mewn gwledydd fel Patagonia. Y rhai mwyaf yw’r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.  Mae dau fath o gystadlu sef Cystadlaethau Llwyfan (e.e., dawnio, canu, llefaru, actio ac yn y blaen) a Chystadlaethau Cartref (e.e., gwaith llenyddol, celf a chrefft, gwyddoniaeth ac yn y blaen).  Prif wobrau eisteddfodau yw Medal, Coron neu Gadair a gyflwynir i’r awdur buddugol mewn seremoni arbennig.

Yr Eisteddfod gyntaf un
Yr Eisteddfod gyntaf y gwyddom amdani yw Eisteddfod Aberteifi, Nadolig 1176. Fe’i cynhaliwyd gan Yr Arglwydd Rhys yn ei lys yn Aberteifi. Cyn ei chynnal roedd y tywysog wedi anfon cenhadon i bob cwr o Gymru i gyhoeddi’r ŵyl. I’r eisteddfod honno daeth nifer fawr o feirdd a chantorion i gystadlu ac mae’r traddodiad hwnnw wedi parhau hyd heddiw gydag eisteddfodau o bob math yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn.

Mwy na chystadlu
I rai mae’r eisteddfod yn gyfle i gystadlu ac i wella eu crefft ac i eraill yn gyfle i ddod i wylio a gwrando ar dalent Cymreig o bob math. Ond mae nifer fawr o bobl yn mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn cefnogi, heb ddiddordeb o gwbl mewn cystadlu na ’chwaith mynd i wylio’r cystadlu. Maen nhw’n hoffi crwydro’r Maes yn cymdeithasu ac yn mwynhau’r awyrgylch Cymreig hwyliog. Daw cannoedd o bobl yn flynyddol i aros ar Faes Carafannau’r Eisteddfod er mwyn bod yn agos at yr holl fwrlwm. Mae’r eisteddfod felly’n llawer mwy na dim ond llefaru, barddoni, dawnsio a chanu!

Y MATHAU GWAHANOL O EISTEDDFODAU

cor bachEisteddfod Ysgol
Mae nifer o ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru yn cynnal eisteddfod bob blwyddyn. Gan amlaf yn neuadd yr ysgol y cynhelir hi a bydd y disgyblion i gyd yn mynd yno i fod yn rhan o’r gynulleidfa. Mae’r disgyblion, sy’n aelodau o ‘dimau’ neu ‘dai’ yn cystadlu ar bob math o gystadlaethau, gyda’r athrawon yn gwneud y gwaith beirniadu. Dyma i rai fan cychwyn mynd i eisteddfodau i gystadlu. Mae’n draddodiad sy’n unigryw i ysgolion yng Nghymru.

Eisteddfod Dafarn
Cynhelir Eisteddfod Dafarn am sawl rheswm e.e i godi arian at achos da mewn ardal. Ond gan amlaf mae eisteddfod dafarn yn cael ei threfnu er mwyn yr hwyl a’r elfen gymdeithasol yn unig. Yn wahanol i eisteddfod draddodiadol mewn eisteddfod dafarn mae’r cystadlaethau’n wahanol iawn fel dweud jôc, sgwennu penillion gwirion a chanu.

Eisteddfod Bentref
Ar hyn o bryd mae dros 120 o eisteddfodau pentref neu eisteddfodau ‘lleol’ yng Nghymru gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn mewn neuadd bentref neu neuadd yr ysgol leol.  Yn 2013 sefydlwyd dwy eisteddfod newydd ac mae sôn am sefydlu un newydd hefyd yn ardal Ardudwy.

Bydd rhai eisteddfodau’n cael eu cynnal dros gyfnod o brynhawn a gyda’r nos (e.e., Eisteddfod Clynnogfawr), rhai dros ddau neu dri diwrnod (e.e., Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan).  Yr hynaf o’r holl eisteddfodau lleol yw Eisteddfod Pandy Tudur a ddathlodd ei phen-blwydd yn 157 oed yn 2013. Cynhelir y rhan fwyaf o eisteddfodau pentref yn ystod gaeaf a’r gwanwyn ond ceir rhai mor gynnar â mis Medi a rhai ganol haf ym mis Gorffennaf.

Eisteddfodau’r Urdd
Bob blwyddyn mae miloedd o blant ledled Cymru yn cystadlu yn eisteddfodau’r Urdd.  Man cychwyn y cyfan yw cymryd rhan mewn Eisteddfod Cylch pryd y bydd plant a phobl ifanc yn cystadlu yn erbyn rhai o’r un oedran â nhw o fewn eu hardal leol. Yna aiff yr enillwyr ymlaen i Eisteddfod Sir i gystadlu yn erbyn aelodau eraill o’r Urdd o fewn yr un sir â nhw, ac o’r fan honno i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cynhelir honno, fel yr Eisteddfod Genedlaethol mewn pebyll mawr, ar gaeau, yn hytrach na mewn neuadd.

Yr Eisteddfod Genedlaethol
Heb os dyma binacl yr holl eisteddfodau i gyd. Ar gaeau, mewn pebyll y cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol a hynny mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn. Y prif babell yw’r Pafiliwn, pabell enfawr lle mae’r rhan fwyaf o’r cystadlu’n digwydd. Ar y ‘Maes’, sef y cae o amgylch y pafiliwn, mae cannoedd o stondinau gan gwmnïau, cynghorau, clybiau, cymdeithasau ac yn y blaen. Ar y Maes hefyd mae Theatr, Pabell Wyddoniaeth, Pabell Lenyddol a phafiliwn Celf a Chrefft.  Mae’r Maes felly yn debyg i bentref bychan gyda strydoedd o stondinau yma a thraw. Yn ogystal â’r stondinau mae llefydd yn gwerthu bwydydd o bob math a bariau cwrw gyda llwyfannau gerllaw lle mae bandiau’n perfformio am ddim drwy’r dydd.

I rai nad ydynt eisiau mynd i mewn i’r pafiliwn mae sgriniau teledu mawr ar y Maes yn dangos holl fwrlwm y cystadlu. Yn ogystal mae’r cyfryngau, y radio a’r teledu, yn dilyn hynt a helynt yr eisteddfod drwy’r dydd bob dydd.

Mae lleoliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn newid bob blwyddyn gan ymweld ag ardal wahanol bob tro. Mae’r paratoadau yn yr ardaloedd hynny’n digwydd dwy flynedd cyn i’r eisteddfod gyrraedd.

Daw tua 160,000 o bobl i’r Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol.

Eisteddfodau Tramor
Er mai rhywbeth Cymreig yw eisteddfod, dros y blynyddoedd mae sawl eisteddfod wedi ei sefydlu mewn gwledydd eraill hefyd, e.e., Eisteddfod y Wladfa ym Mhatagonia, Eisteddfod Jersey a’r West Coast Eisteddfod a gynhelir yn Portland, Oregon. Yn rheiny, yn debyg iawn i  eisteddfodau Cymraeg mae cystadlaethau canu a dawnsio yn ogystal â chystadlaethau llenyddol.

Y CYSTADLAETHAU

Y Cystadlaethau
Mewn eisteddfodau fel arfer mae dau fath o gystadleuaeth:
• cystadlaethau ar y llwyfan yn ystod yr eisteddfod ei hun (e.e. canu, llefaru a dawnsio)
• cystadlaethau a gaiff eu beirniadu cyn i’r eisteddfod gychwyn (e.e. llenyddiaeth, a chelf a chrefft).

Mae’r drefn o gystadlu ar destunau cartref (neu gystadlaethau cartref) yn wahanol i’r drefn o gystadlu ar y llwyfan:

Cystadlaethau Cartref
Mae eisteddfodau lleol yn ogystal â’r eisteddfodau mawrion yn cyhoeddi taflen neu lyfryn sy’n cynnwys rhestr o’r holl gystadlaethau llwyfan a chartref. Rhaglen neu Rhestr Testunau  yw’r enw ar y rhestr honno ac mae ar gael am fisoedd lawer cyn diwrnod yr eisteddfod. Os ydych am gystadlu mewn eisteddfod leol disgwylir i chi anfon eich gwaith i’r eisteddfod gan ddefnyddio ffugenw yn unig, nid eich enw go iawn. Yn yr un amlen neu barsel â’ch gwaith disgwylir i chi roi eich enw go iawn mewn amlen wedi ei selio. Os ydych yn ennill fe fydd yr ysgrifennydd yn agor eich amlen ac yn cysylltu â chi gyda’r newyddion da. Os na fyddwch yn llwyddiannus ni fydd neb byth yn gwybod eich bod wedi cystadlu – a cholli!

Cystadlaethau Llwyfan
Yn achos eisteddfod leol nid oes rhaid cofrestru i gystadlu dim ond cyrraedd ar y dydd gyda chopi o’r hyn rydych am ei berfformio i’r beirniad a’r cyfeilydd. Mewn eisteddfodau mwy (e.e. yr Eisteddfod Genedlaethol) mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw drwy lenwi ffurflen gystadlu a’i hanfon at swyddogion yr eisteddfod. Pwrpas hynny yw cael syniad o flaen llaw o sawl un fydd yn cystadlu. Yna, ar ddydd y cystadlu mae’n rhaid mynd i Ragbrawf.  Mae Rhagbrawf yn torri’r nifer o gystadleuwyr i lawr i’r 3 neu 4 gorau, a nhw’n unig fydd yn cael mynd ymlaen i berfformio ar lwyfan mawr y Pafiliwn.

Oedran cystadlu
Mae rhai’n poeni wrth fynd i eisteddfod y byddant yn gorfod cystadlu yn erbyn rhai hŷn a mwy profiadol na nhw. Fel arfer mewn eisteddfodau mae cystadlaethau‘n cael eu gosod ar gyfer oedrannau arbennig. Mae rhai adrannau ar gyfer y rhai dros 25 oed neu dros 60 oed. Mae rhywbeth mewn eisteddfod i bob oed, o blant oedran meithrin i bobl sydd yn mynd i oed mawr. Dyna sydd yn braf bod y genhedlaeth iau a hŷn yn cyd-ddathlu eu talent i gyd dan yr un to (neu yn yr un babell!).

Y GWOBRAU

cadairGwobrau bach a mawr
Gall gwobr mewn eisteddfod amrywio o dystysgrif yn unig, i gannoedd o bunnau, coron arian a chadair fawr bren. Mae’r wobr yn dibynnu’n llwyr ar y gystadleuaeth a maint yr eisteddfod. Bydd eisteddfod leol yn rhoi gwobr ariannol hyd at tua £10 a’r Eisteddfod Genedlaethol wedyn yn cynnig gwobrau ariannol sydd yn gannoedd o bunnoedd. Ond prif wobr unrhyw eisteddfod yw Cadair neu Goron. Enillir Cadair neu Goron am farddoniaeth, a chynhelir seremoni arbennig i goroni neu gadeirio’r bardd buddugol. Mae seremonïau hynny’n cynnwys presenoldeb Gorsedd y Beirdd, plant yn danwsio a chantorion yn canu clod i’r bardd buddugol. Mae’n gwbl unigryw i Gymru ac yn olygfa ryfeddol.