Cyfrwng ar y we yw Twitter, lle gallwch rannu eich meddyliau, jôcs, gwybodaeth a newyddion yn ogystal â dilyn sylwadau pobl eraill. Mae’n gwneud cysylltu â phobl o bedwar ban byd yn sydyn a rhad.
Gallwch ddilyn sylwadau pobl eraill ac yn y man efallai y bydd pobl yn dechrau eich dilyn chi. Nid yw dilyn rhywun ar Twitter yn golygu eich bod yn eu hedmygu, na chwaith eich bod eisiau bod yn gyfeillion â nhw, dim ond cyfle i gysylltu o dro i dro.
Cyn cychwyn dylid deall rhai o dremau’r cyfrwng. Efallai eich bod wedi clywed pobl yn sôn am ‘drydar’, ‘hashnod’ neu’n ‘dilyn’ rhywun ar Twitter. Dyma restr o’r termau a ddefnyddir amlaf:
Tweet: Trydar, sef neges 280 nodyn cyfrifiadurol
Retweet (RT): Ail-drydar. Cymeradwyo neu roi clod i drydar rhywun arall.
Feed: Rhes Trydar: Y rhes o negeseuon trydar a welwch chi ar eich tudalen Twitter. Yn y rhestr hon mae eich trydar chi a thrydar y bobl rydych chi’n eu dilyn.
Handle: Eich enw (@steddfodLlan, @JohnWilliams, @MwnciDrwg).
Mention (@): Mensh. Ffordd o gyfeirio at rhywun drwy ddefnyddio eu henw mewn trydar (e.g. @huwbach). Mae’r defnyddiwr (Huw Bach yn yr enghraifft yma) yn cael eu hysbysu o’r ffaith bod rhywun wedi sôn amdanynt.
Direct Message (DM): Neges Uniongyrchol. Neges breifat, 140 nodyn rhwng dau berson. Gallwch ddewis derbyn Negeseuon Uniongyrchol unrhyw berson arall neu dim ond y bobl rydych chi’n eu dilyn. Gallwch anfon Neges Uniongyrchol at unrhyw berson rydych chi’n eu dilyn.
Hashtag (#): Hashnod. Ffordd o nodi pwnc trafodaeth. Er enghraifft os ydych yn trydar am noson goffi beth am #borecoffi neu os yn sôn am raffl, #raffl2014. Gallwch greu eich hashnod eich hunan.
Os ydych chi’n clicio ar unrhyw hashnod fe gewch restr o’r holl negeseuon trydar dan y pwnc hwnnw.
Ewch i wefan Twitter (www.twitter.com) a chlicio ar ‘Sign-Up for Twitter’. Dilynwch y cyfarwyddiadau. Fe fyddwch yn gorfod dewis enw e.e @steddfodBont, @steddfodaLlan, @steddfodChwilog ac yn y blaen. Dyma eich enw (‘handle’) ar Twitter.
Er mwyn cysylltu, sgwrsio neu ohebu â phobl ar Twitter mae’n rhaid i chi gyflwyno eich hunan iddyn nhw. Drwy greu enw (‘handle’) gallwch ddisrifio eich hunan mewn ychydig o eiriau, tebyg i gerdyn busnes.
Eich llun (‘Profile picture’). Os ydych am ddefnyddio Twitter ar gyfer eich eisteddfod dylid cael llun eich logo neu efallai lun o un o weithgareddau’r eisteddfod. Dylai eich llun, eich disgrifiad a’r prif lun (Header Photo) ddweud llawer amdanoch chi ac ar sail hynny y bydd pobl yn eich dilyn.
Cliciwch ‘New Tweet’ a dechreuwch deipio. Ond cofiwch nad oes fawr o le! Nid oes ond lle i 140 o nodau cyfrifiadurol (‘characters’) gan gynnwys rhifau, gofod, dyfynodau, atolnodi ac yn y blaen. Wrth i chi deipio bydd rhif bach yn ymddangos i ddangos faint o le sydd gennych ar ôl.
(Os yn bosib ceisiwch dalfyrru rhai geiriau ond peidiwch â defnyddio iaith debyg i iaith negeseuon testun ar ffôn symudol).
Unwaith y byddwch yn barod, anfonwch y neges. Rydych chi newydd drydar (neu ‘sent a tweet’ neu ‘tweeted’) Bydd pawb yn y byd sydd â chyfrif Twitter yn gallu gweld eich neges – os ydyn nhw yn eich dilyn. Mae modd i chi gadw eich manylion (eich ‘Profile’) yn breifat ond mae hynny braidd fel anfon llythyr i’ch hunan drwy’r post!
Fe gewch drydar bob munud, bob awr neu unwaith y mis – eich dewis chi yw hynny. Ond cofiwch mai profiad yw Twitter, y mwya’n byd y defnyddiwch chi o y gorau’n byd fydd y profiad.
Yr hyn y gall ddigwydd nesaf yw bod rhywun yn eich dilyn. Mae hyn yn golygu eu bod â diddordeb yn yr hyn sydd gennych chi i’w ddweud.

Mae cerdded i mewn i le felly’n gallu bod yn deimlad unig ond yn ara’ bach mae rhywun yn taro sgwrs, yn cyfarfod ffrindiau newydd ac yn dysgu mwy am y gwesteion eraill. O fewn dim o dro mae dyn yn rhan o griwiau sy’n ymddiddori mewn gwahanol bethau.
Unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrif fe gewch fynd i chwilio am bobl i’w dilyn, pobl y gallwch chi sgwrsio â nhw o bosib. Mae sawl ffordd o wneud hynny; y symlaf yw dilyn pobl rydych chi’n eu nabod yn barod, ffrindiau, teulu ac y blaen. Mae croeso wrth gwrs i chi ddilyn eich hoff ganwr, actor, neu bêldroediwr. Eich dewis chwi yw hynny. Yn y dechrau fel hyn mae llawer o bobl yn edrych ar bwy mae eu ffrindiau’n eu dilyn yn gyntaf.
Y ffordd symlaf fyddai creu trydar a’i anfon i’r byd a gobeithio y bydd rhywun yn ei weld. Ond os nad oes gennych chi ddilynwyr ni fydd neb yn dod o hyd i’ch neges. Gwell fyddai i chi weld trydar gan rhywun arall, trydar sy’n eich cyffroi, neu’n drydar diddorol, clicio ‘Reply’ ac anfon eich pwt.
Mae cyfathrebu â phobl fel hyn yn ffordd dda o ddod i nabod sut mae defnyddio “@mention” (sef y symbol ‘@’ cyn enw person). Mae clicio ar ‘expand’ neu ‘view conversation’ ar drydar rhywun yn dangos pob trydar a dderbyniwyd yn ymateb i’r trydar hwnnw gan gynnwys negeseuon gan rai nad ydych yn eu dilyn. Gallwch weld os oes rhywun wedi sôn amdanoch drwy glicio ar @Connect ar dop y dudalen.
Os ewch i “Accounts”, fe welwch “Receive direct messages from any follower.” Dewisiwch hwn os hoffech chi derbyn negesuon uniongyrchol gan eich dilynwyr er nad ydych yn eu dilyn nhw’n ôl.
I ail-drydar, cliciwch ar ‘re-tweet’ sy’n ymddangos pan fyddwch yn rhoi’r llygoden dros drydar rhywun arall. Drwy glicio fe fydd y trydar yn cael ei ail-drydar i bob un o’ch dilynwyr. Hefyd bydd symbol bach gwyrdd yn ymddangos yng nghornel top, dde’r trydar.
Un peth bach i’w gofio – peidiwch â defnyddio gofod yn eich hashnodau e.e., #Caffi Aber.
Pob hwyl arni!