Derbyniwyd y darn isod fel rhan o waith “Learning Links International”, sy’n astudio cysylltiadau â’r traddodiad eisteddfodol yn Jamaica. CymruJamaica

 

“Roedd 1963 yn flwyddyn bwysig ym mywyd ein teulu ni – wrth i ni ffarwelio â bywyd dinesig Manceinion a symud i fyw ar ynys fechan Jamaica yn y Caribî.

Fy nhad, Pearce Jones, oedd y trydydd mab i rieni Cymreig. Ganwyd Nain ym Mhatagonia, a chyrhaeddodd Lerpwl, gyda’i rhieni, yn 15 oed, a’i hunig ieithoedd oedd Sbaeneg a Chymraeg. Ymhen blynyddoedd bu iddi gyfarfod Taid, a’i briodi. Magwyd eu tri mab ar aelwyd Gymraeg ei hiaith. Mynychodd y teulu Gapel Cynulleidfaol Great Mersey yn Lerpwl, a gydag amser fe aeth y meibion yn weinidogion.

Erbyn 1963 roedd fy nhad wedi treulio pymtheg mlynedd yn y weinidogaeth ac roedd e’n weinidog mewn eglwys yn Old Trafford, Manceinion. Yn ystod ei naw mlynedd yno, bu llawer o fewnfudo o rai o wledydd y Gymanwlad a’r gwladfeydd Prydeinig, a croesawyd nifer o bobl o India’r Gorllewin i gymuned yr eglwys. Bryd hynny, doedd bywyd y tu allan i’r eglwys ddim bob amser mor groesawgar.

Yn yr un flwyddyn derbyniodd fy nhad gynnig i gymryd gofal o dair eglwys ym mhlwyf Clarendon, Jamaica (roedd plwyfi Jamaica yn cyfateb i siroedd yn Mhrydain). Roedd gan fy rhieni bump o blant, o 8 i 18 oed, felly roedd angen cryn dipyn o feddwl cyn dod i benderfyniad ynglŷn â’r cynnig.

Yna, ym mis Medi 1963, dyma ni’n cychwyn, yn deulu o saith, i Southampton er mwyn mynd ar gwch banana Eidaleg – yr S.S Ascania, oedd yn hwylio i Jamaica bell. Dyna gyffrous oedd y fordaith dair wythnos i ni’r plant, gan mai’r unig brofiad o’r byd mawr oedd gennym cyn hynny oedd mis o wersylla ym Mhorth y Gest bob mis Awst! Cyrhaeddon ynys Jamaica ym mis Hydref y flwyddyn honno, a chyn pen dim roeddwn wedi ymgolli ym mywyd yr eglwys a’r ysgol yn Chapelton, gan fod fy nhad hefyd yn gaplan yn yr ysgol honno.

Un o ddigwyddiadau blynyddol yr ysgol bryd hynny oedd gŵyl ddiwylliannol gystadleuol a alwyd yn “eisteddfod”. Ers i Jamaica gael annibyniaeth, daeth y term “gŵyl” yn fwy cyffredin, ond mae’r elfen gystadleuol yn parhau.

Mae’r cofnod cyntaf o eisteddfod yn Jamaica yn dyddio nôl i 1897, pan gynhaliwyd eisteddfod gan Sefydliad Jamaica i nodi Jiwbilî Ddeiamwnt y Frenhines Fictoria. Gŵr o’r enw Mr Arthur J. Newman oedd yn bennaf gyfrifol am helpu eisteddfodau i ledaenu yn Jamaica. Pennaeth Coleg Hyfforddi Athrawon, Mico, Kingston oedd e, a chyflwynodd system dai i’r coleg, ac wedi iddynt raddio fe fyddai’r myfyrwyr hefyd yn sefydlu hyn yn yr ysgolion lle roeddent yn dysgu. Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yn Mico ar Fehefin 14eg, 1924. Beirniad y gystadleuaeth cyfansoddi alaw oedd Mr Astley Clark, perchennog siop llyfrau cerddoriaeth, ac fe gyflwynwyd cwpan arian ganddo am waith cerddorol gwreiddiol.

Ym 1925 cynhaliwyd Eisteddfod Mico ym mis Hydref, gyda chystadlaethau ysgrifennu traethodau a straeon byrion, barddoniaeth, cyfansoddi alawon, pedwarawdau, unawdau, llefaru ac arlunio. Roedd y chweched eisteddfod (ym 1929) mor boblogaidd bu’n rhaid troi pobl i ffwrdd!

Rhwng 1935 ac 1955 gwelwyd nifer o adroddiadau am eisteddfodau mewn ysgolion y tu allan i Kingston, ym mhapur newydd y “Daily Gleaner”. Dyma, yn ôl Vivian Crawford (Prif Gyfarwyddwr presennol Sefydliad Jamaica), oedd sail yr hyn a adnabyddir heddiw fel Comisiwn Datblygiad Diwylliannol Jamaica.

Ym 1959, aeth Cymro o’r enw Haydn Middleton draw i ddysgu yng Ngholeg Clarendon, Jamaica. Disgrifiwyd ef fel dyn cwrtais, cariadus, a oedd yn llawn egni ac wrth ei fodd gyda rygbi, canu a Chymru. Tra ‘roedd yno cyfarfu â’r pennaeth – C.L Stuart, a oedd eisoes wedi cael profiad o eisteddfod yng Ngholeg Mico. Fe welodd hwnnw ei gyfle i sefydlu eisteddfod gyda chefnogaeth Middleton, ac yn ôl yr hanes dyma oedd cyfraniad pennaf y Cymro i Goleg Clarendon –“…that Welsh Festival of Festivals”!

Mae gan fyrfyriwr arall o Goleg Clarendon atgofion o eisteddfod fel cystadleuaeth rhwng y tai, gyda cherddoriaeth a dawns. Roedd bechgyn a merched yn cystadlu ar wahan, a chafwyd rownd derfynol ar ôl rowndiau rhagbrofol. Gydag amser, cyflwynwyd cystadlaethau piano a chanu corawl, ac nid oedd hawl ganddynt i ganu caneuon pop nag unrhywbeth a glywyd ar y radio!

Felly, dengys yr ymchwil i hanes eisteddfodau yn Jamaica fod yna gysylltiad parhaus rhwng Jamaica a Chymru, a bod cyfraniad gweinidogion ac addysgwyr o Gymru wedi cael dylanwad pendant ar ddiwylliant a threftadaeth yr ynys. Ffurfiwyd y Gynghrair Jamaica Cymru yn ddiweddar er mwyn archwilio cysylltiadau cynaladwy rhwng y ddwy wlad, ac mae Cymdeithas Jamaicaidd Gogledd Cymru hefyd yn gweithio i gynnal y cysylltiadau, drwy addysg a gweithgareddau diwylliannol.”

Miriam Jones Isherwood

 

Gyda diolch i’r canlynol am eu cyfraniad a’u cymorth gyda’r erthygl yma: Liz Millman (Cynghrair Jamaica Cymru a Chymdeithas Jamaicaidd Gogledd Cymru), Vivian Crawford (Prif Gyfarwyddwyr Sefydliad Jamaica), Bethany Jones Powell (Cymdeithas cyn-fyfyrwyr Coleg Clarendon), Cyn-fyfyrwyr o’r Coleg.

 

Y Byd