SWYDDOG DATBLYGU
Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn chwilio am Swyddog i ddatblygu a hyrwyddo gwaith y Gymdeithas ac i ddarparu cefnogaeth a chyngor i eisteddfodau lleol.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod â diddordeb amlwg yn y diwylliant eisteddfodol ac yn unigolyn trefnus, brwdfrydig a blaengar. Bydd y swyddog yn cydweithio â Swyddog Technegol y Gymdeithas. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol.
Rhan amser: 24 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
Cyflog: £18,000 – £23,000 pro rata yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad.
Dyddiad cau: Chwefror 15fed, 2021
I gael pecyn cais a mwy o wybodaeth, cysylltwch â Megan Jones Roberts (Cadeirydd y Gymdeithas) ar 01970 612768 neu meganjones849@gmail.com