Fel arfer ar y dydd Mercher wedi’r Pasg mae Capel y Groes, Llanwnnen dan ei sang â’r eisteddfod flynyddol yn cael ei chynnal. Roedd yr holl gynlluniau yn eu lle ar gyfer eisteddfod 2020, ond yn anffodus bu’n rhaid canslo ychydig o wythnosau cyn y diwrnod mawr. Ond wedyn mi ddechreuon ni feddwl… Tybed a fyddai modd cynnal eisteddfod ychydig yn wahanol eleni, er gwaetha’ COVID-19? A fyddai modd cynnal eisteddfod ddigidol?

Mi ddechreuon ni hysbysebu ar y gwefannau cymdeithasol, gan ofyn i rieni ddanfon fideos o’u plant o dan 12 yn canu a llefaru aton ni, yn ogystal ag e-bostio darnau llenyddol a chelf. Wrth i’r dyddiad cau agosau, mi roedd hi’n sioc anferth i weld bod dros 150 o blant ysgol gynradd o bob cwr o Gymru wedi cystadlu!

Roedd tipyn o dasg o flaen y beirniaid, Elin Haf Jones ac Enfys Hatcher Davies, a bu’r ddwy wrthi’n fishi yn ystod penwythnos y Pasg yn pwyso a mesur. Roedd Enfys ac Elin wedi eu plesio’n fawr gan safon y cystadlu ac â chanmoliaeth uchel i bawb oedd wedi cymryd rhan.

Ac felly, cyrhaeddodd diwrnod yr eisteddfod – y 15fed o Ebrill. Ond yn hytrach na’r capel, tudalen Facebook yr eisteddfod oedd canolbwynt y cystadlu gyda channoedd yn gwylio. Roedd fideos o’r holl ganu a llefaru a’r gwaith celf a llên yn cael eu cyhoeddi ar dudalen Facebook Eisteddfod Capel y Groes. Roedd y canlyniadau holl-bwysig hefyd yn cael eu postio’n rheolaidd!

Oedd, mi roedd hi’n eisteddfod ’chydig yn wahanol i’r arfer. Ond r’yn ni’n gobeithio’n fawr fod pawb wnaeth gystadlu neu wylio’r holl fideos wedi mwynhau, ac r’yn ni’n hynod o ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth. Taenu ychydig o lawenydd yn y cyfnod rhyfedd hwn oedd y nod, ac r’yn ni’n gobeithio’n fawr ein bod ni wedi llwyddo!

R’yn ni hefyd yn gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i roi Eisteddfod Capel y Groes ar y map. Fe gafodd yr eisteddfod ddigidol sylw mawr, gydag eitemau ar newyddion radio a theledu, rhaglen Shân Cothi ar Radio Cymru a gwefannau Golwg360 a BBC Cymru Fyw. Mae tudalen Facebook yr eisteddfod hefyd wedi derbyn nifer sylweddol o ddilynwyr newydd, ac mae negeseuon Twitter yr eisteddfod yn cael eu rhannu’n eang erbyn hyn. Y gobaith yw y bydd yr holl sylw yma’n hwb i’r eisteddfod pan fydd pethau’n dychwelyd i’r drefn arferol yn 2021.

 

Dyma ein ‘tips’ ni ar gyfer trefnu eisteddfod ar-lein:

  1. Meddyliwch o flaen llaw am sut yn union mae’r eisteddfod am weithio. Mae opsiynau syml e.e. Facebook a mwy cymhleth e.e. Zoom. Holwch am gyngor wrth rywun sydd ag arbenigedd technegol os oes angen a gwnewch yn siŵr fod popeth yn ei le cyn dechrau hysbysebu.
  2. Mae’n dipyn o waith! Rhannwch y dyletswyddau os yn bosib gan wneud yn siŵr fod gan bawb sy’n trefnu y cyfrineiriau i wefannau cymdeithasol yr eisteddfod. Mi roedd Clonc360 yn lot o help i ni wrth hysbysebu, felly gwnewch y mwyaf o’ch papurau bro a gwefannau lleol wrth adael i bobol wybod am yr eisteddfod. Mae’n bosib iawn na fydd y dulliau arferol o hysbysebu e.e. posteri mor effeithiol ar hyn o bryd.
  3. Meddyliwch am ffactorau ariannol. Mi wnaethon ni benderfynu peidio codi tâl i gystadlu yn yr eisteddfod ac i roi tystysgrifau yn unig yn hytrach na gwobrau ariannol. Mae arian hefyd yn ffactor i’w ystyried pan yn meddwl am feirniaid.
  4. Byddwch yn drefnus! Mi roedden ni’n cadw dogfen i gadw popeth mewn trefn a’i diweddaru pob tro yr oedden ni’n derbyn ymgais. Hefyd, cofiwch fod eisiau digon o amser i ddanfon yr holl fideos at y beirniaid ac i’w llwytho i Facebook. Mae hyn yn gallu cymryd sbel yn dibynnu ar safon y rhyngrwyd.
  5. Ystyriwch ffactorau fel diogelu data ac amddiffyn plant a holwch am gyngor os oes angen. Mi wnaethon ni hi’n glir y byddai’r holl fideos a’r darnau gwaith cartref yn cael eu dangos ar y cyfryngau cymdeithasol gan rhoi cyfle i rieni ddweud wrthon ni os nad oedden nhw am i’w plant ymddangos ar Facebook. Mi wnaethon ni hefyd ond rhoi enw cynta’r plentyn ar y gwefannau cymdeithasol.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os am fwy o wybodaeth neu gyngor: lunedmair@hotmail.co.uk